Atodiad C – Digwyddiad rhanddeiliaid, 6 Mawrth 2014
Aelodau yn bresennol: Keith Davies, William Graham, Rhun ap Iorwerth, Eluned Parrott, Joyce Watson
Diben
Nod y digwyddiad hwn oedd rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor glywed safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr, staff ac academyddion Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ynglŷn â rhaglen Erasmus yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynllun hwn yn galluogi myfyrwyr addysg uwch i astudio neu weithio dramor fel rhan o’u cwrs gradd, a staff i addysgu neu hyfforddi mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.
Bu pedwar ar bymtheg yn cymryd rhan yn y digwyddiad. Hwylusodd Aelodau’r Cynulliad drafodaeth yn y pum grŵp ar y tair thema ganlynol:
- Beth oedd wedi ysgogi’r myfyrwyr a’r staff i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid; pa brofiadau a gawsant; a pha effaith a gafodd arnynt ar lefel bersonol ac academaidd;
- Y manteision a’r rhwystrau i annog rhagor o fyfyrwyr sy’n graddio i astudio’r tu allan i’r DU am gyfnod o’u hastudiaethau;
- Sut mae Cymru’n gallu cefnogi symudedd allanol myfyrwyr yn well a manteisio ar gyfleoedd sy’n deillio o gymryd rhan mewn rhaglenni’r UE fel Erasmus.
Aeth Aelodau’r Cynulliad ati i grynhoi prif bwyntiau pob grŵp i’r grŵp llawn.
Crynodeb o’r prif bwyntiau
1. Profiadau a manteision rhaglen Erasmus
· Mae rhaglen Erasmus wedi bod yn llwyddiant digamsyniol.
· Mae Erasmus yn ehangu gorwelion, safbwyntiau a phrofiadau – mae’n rhoi mantais i fyfyrwyr a’u helpu i greu argraff.
· Mae Erasmus yn bwysig ar lefel wleidyddol gan ei bod yn datblygu dealltwriaeth ddiwylliannol ac yn cynyddu rhwydweithiau a chysylltiadau sefydliadol a phersonol, gan gynnwys ffrindiau am oes.
· Mae Erasmus yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol a chysylltiadau agosach â’r UE.
· Mae myfyrwyr Erasmus yn cyflawni ac yn perfformio’n well yn academaidd.
· Mae myfyrwyr sy’n dewis gadael yn fwy tebygol o ymgymryd ag addysg ôl-radd.
· Mae myfyrwyr Erasmus wedi dilyn cyrsiau gradd amrywiol – e.e. ieithoedd modern, busnes, meddygaeth.
· Mae yna sawl ffactor ysgogi (e.e. prifysgol, ysgol).
· Roedd myfyrwyr Erasmus o’r farn fod cymorth gweinyddol Prifysgol Caerdydd yn “rhagorol”, er eu bod yn credu bod dewis cymharol gyfyngedig o brifysgolion dramor i astudio ynddynt.
· Cefnogwyd targed Prifysgol Caerdydd sy’n nodi y dylai 17 y cant o fyfyrwyr sy’n graddio astudio dramor, ond mae angen gwella cysondeb ar draws adrannau a chyrsiau gwahanol, e.e. mae rhaglen Erasmus yn orfodol ar gyfer cyrsiau iaith, ond nid yw ar gael yn aml ar gyfer cyrsiau eraill oherwydd systemau credydau’r cyrsiau gradd.
· Nid oes gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd darged symudedd allanol ar hyn o bryd, ond bydd yn pennu targed cyn bo hir.
· Mae Erasmus Mundus yn bwysig ar gyfer hyrwyddo symudedd staff mewn gwledydd y tu allan i Ewrop.
· Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael llwyddiant mawr gyda rhaglen Erasmus Mundus, gan gymryd rhan mewn 12 prosiect ac arwain 6, sy’n fwy nag unrhyw sefydliad arall yn y DU.
· Yn ogystal â rhoi profiad gwych i fyfyrwyr, mae’n rhaid i Gymru fanteisio ar dalent o Gymru yn hytrach na dim ond cynyddu faint o dalent sy’n cael ei allforio.
· Mae yna fanteision clir ar gyfer prifysgolion a busnesau hefyd, e.e. cynyddu cyflogadwyedd, marchnata/atyniad prifysgolion, y cysylltiadau a’r rhwydweithiau sy’n cael eu cynnig i staff prifysgolion.
· Dylai symudedd ac astudio dramor fod yn rhan o bob cwrs gradd ac nid yn eithriad iddynt.
2. Rhwystrau i annog rhagor o fyfyrwyr sy’n graddio i astudio dramor
· Mae’n gallu bod yn anodd denu myfyrwyr i raglen Erasmus – Mae’r nifer sy’n ei hastudio yn lleihau.
· Mae’n debyg mai arian yw’r rhwystr mwyaf, yn enwedig os oes rhaid i fyfyrwyr dalu ffioedd dysgu a thalu am lety dramor ac yn y wlad hon.
· O dan Erasmus+ ni fydd ysgoloriaethau a ariennir yn llawn ar gael bellach ar gyfer Erasmus Mundus.
· Mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth o Erasmus mewn ysgolion ac ymysg myfyrwyr nad ydynt yn astudio iaith yn y brifysgol.
· Gall rhwystrau diwylliannol, fel diffyg hyder neu ganfyddiadau o wledydd ac ieithoedd eraill, atal myfyrwyr rhag astudio dramor. Fodd bynnag, mae llawer o’r cyrsiau sydd ar gael mewn prifysgolion yn Ewrop yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg, felly nid oes rhaid i ddiffyg gwybodaeth am iaith Ewropeaidd fod yn rhwystr i’r rhai sy’n awyddus i astudio dramor.
· Gall rhieni fod yn rhwystr mawr hefyd gan eu bod yn gwneud cyfraniad allweddol at benderfyniadau yn ymwneud â chyrsiau israddedig yn benodol.
· Mae myfyrwyr gofal iechyd yn tueddu i fod yn fenywod a/neu’n fyfyrwyr aeddfed sydd ag ymrwymiadau teuluol, sy’n cyfyngu ar eu gallu i astudio dramor am gyfnod hir.
· Gall cyfnod estynedig dramor effeithio ar rai myfyrwyr Erasmus wrth iddynt geisio ail-afael yn eu bywyd a’u hastudiaethau yn eu prifysgol wreiddiol.
· Mae llawer o’r ysgogiad yn deillio o angerdd a brwdfrydedd staff unigol yn hytrach nag o strategaeth ystyrlon.
3. Sut mae Cymru’n gallu cefnogi symudedd allanol myfyrwyr yn well
· Mae angen strategaeth symudedd genedlaethol.
· Gellid darparu rhagor o gyllid i hyrwyddo a marchnata’r rhaglen a manteision cyfranogi – gan ei hwyluso o bosibl o un pwynt cyswllt ar gyfer Cymru gyfan.
· Gellid darparu cyllid (yn seiliedig ar brawf modd efallai?) i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar y cyfleoedd.
· Dylai cyllid fod ar gael hefyd fel bod academyddion a chydgysylltwyr yn gallu hwyluso rhwydweithio a chyfarfodydd â phartneriaid Ewropeaidd.
· Dylid codi ymwybyddiaeth o Erasmus ymysg myfyrwyr iau tua 14 i 15 oed drwy’r ysgolion, a chodi ymwybyddiaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd a phrifysgolion o’r rhaglen.
· Dylai pobl plentyn ysgol gael y cyfle i brofi ymweliadau cyfnewid dramor.
· Dylid defnyddio myfyrwyr Erasmus i hyrwyddo’r rhaglen a rhannu eu profiadau â myfyrwyr eraill drwy wneud datganiadau mewn darlithoedd a ffeiriau.
· Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydlu rhaglen o lysgenhadon ar gyfer ei chanolfan newydd yn yr hydref; mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion unigol – ac mae rhai ohonynt yn cymryd rhan amlycach na’i gilydd.
· Mae angen gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o fanteision a gwerth cymryd rhan yn rhaglen Erasmus, yn enwedig ymysg rhieni.
· Gellid gwella gweinyddiaeth rhaglen Erasmus.
· Dylid annog rhagor o fyfyrwyr nad ydynt yn astudio ieithoedd i gymryd rhan yn rhaglen Erasmus.
· Byddai modd gwella’r broses o fonitro, mesur, meincnodi a gwerthuso symudedd myfyrwyr er mwyn nodi’r holl weithgarwch a chael ôl-drafodaeth lawn ar brofiadau myfyrwyr.
· Mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad â myfyrwyr Erasmus drwy ddefnyddio cronfa ddata ac olrhain eu cyflogadwyedd a’u cyrchfannau mwy hirdymor.
· Gellir gwneud mwy i fanteisio ar y cysylltiadau rhwng myfyrwyr Erasmus a busnesau.
· Mae angen ysgogiad ac ymdrech ar lefel sefydliadol, gyda strategaeth ystyrlon sy’n ennyn cefnogaeth staff a myfyrwyr.
· Mae angen ymroddiad a brwdfrydedd gan unigolion – arloeswyr newid sy’n gallu denu adnoddau a gwneud i bethau ddigwydd.
· Mae angen rhagor o dargedau i gynyddu canran y myfyrwyr sy’n astudio dramor.
· Dylid sicrhau bod lleoliadau byrrach, mwy hyblyg ar gael (1 i 2 wythnos efallai) cyn bod myfyrwyr yn ymrwymo i gyfnewidiadau mwy hirdymor, a dylid darparu cyllid ar gyfer hynny, e.e. cynllun bwrsariaeth ar gyfer rhaglenni cyfnewid yn ystod yr haf.
· Dylid manteisio ar y cysylltiadau Ewropeaidd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol er budd cyfnewidiadau ar gyfer myfyrwyr Cymru ac addysg uwch.
· Dylid cynnig hyfforddiant iaith i gefnogi myfyrwyr Erasmus.
· Dylid sicrhau bod dysgu ieithoedd yn orfodol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
· Dylid sicrhau bod cylchoedd semester a strwythurau gradd prifysgolion yn fwy cydnaws â thymhorau lleoliadau Erasmus.
· Dylai cyrff rheoleiddio sicrhau bod eu systemau achredu yn cydnabod gwerth myfyrwyr sy’n astudio dramor.
· Dylai myfyrwyr Erasmus gael credydau ychwanegol.
· Gellid cynnwys symudedd/gweithgarwch rhyngwladol yn y meini prawf ar gyfer dyrchafiad academaidd/staff er mwyn hyrwyddo cyfnewid rhyngwladol.